Dewch o hyd i’r help sydd ei angen arnoch pan fydd ei angen arnoch.


Gyda dros 30,000 o fyfyrwyr yng Nghaerdydd, ac 1 o bob 4 ohonom yn debygol o gael trafferth gyda’n hiechyd meddwl, mae angen i ni wybod beth i’w wneud a ble i fynd i gael help.


Yr Ap


A stack of app visuals highlighting the individual features of the MDB app

Pan gafodd un aelod o’n tîm pwl o banig pan oedd allan un diwrnod, nid oedd yn gwybod ble i fynd i eistedd, a oedd wedi gwaethygu’r sefyllfa.Sylweddolodd nad oedd ar ei ben ei hun.Dyna pam y cafodd yr ap hwn ei greu.Rydyn ni’n credu y dylech allu dod o hyd i’r cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnoch, unrhyw le, unrhyw bryd.

Pwy ydyn ni?


Mae My Discombobulated Brain yn Elusen Iechyd Meddwl yn Ne Cymru. Ein nod yw mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gan gynnig cymorth ac addysg i’r rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y materion hyn.

Ein Gwerthoedd


Rydyn ni’n credu y dylech allu dod o hyd i’r cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnoch, unrhyw le, unrhyw bryd. Gall fod yn fan tawel lle gallwch gymryd eiliad i anadlu ac i feddwl neu gall fod yn rywle sy’n cynnig cymorth cyntaf iechyd meddwl a all eich helpu.

Sut mae'n gweithio?


Mae’n gyflym ac yn hawdd iawn dechrau arni!Pan fyddwch yn agor eich ap gwe, bydd y dechnoleg geoleoliad yn dod o hyd i chi ac yn dangos y gwahanol lefelau o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael o’ch cwmpas.Bydd yn rhoi map i chi yn dangos sut i gyrraedd y cymorth sydd ei angen arnoch.Os yw dewis iaith eich ffôn wedi’i rhestri yma bydd ein ap yn defnyddio’ch dewis iaith yn awtomatig, sy’n ei wneud yn hygyrch i bawb.Mae’n hawdd defnyddio ac i ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnoch pan fydd ei angen arnoch.

A view of the app showing on a map all of the safe places through the city

Dod yn Bartner Argyfwng MDB


Hoffech chi ddod yn bartner ar y platfform a’n helpu ni a’n cenhadaeth i ddod â’r stigma yn erbyn iechyd meddwl i ben?
Byddem wrth ein boddau'n clywed gennych!

Fyddwn ni byth yn gwerthu nac yn defnyddio eich gwybodaeth mewn modd niweidiol. Addo.

©2022 MyDiscombobulatedBrain Cedwir pob hawl.

Fe fyddwn ni mewn cysylltiad!

Diolch am fynegi diddordeb mewn dod yn bartner. Byddwn mewn cysylltiad yn fuan.